Dydd Mercher 5 Chwefror
Diogelwch ar-lein ar draws y byd: panel cydlyniant mewn rheoleiddio rhyngwladol a sesiwn holi ac ateb
14:30 – 15:30 (GMT): Diogelwch ar-lein ar draws y byd: panel cydlyniant mewn rheoleiddio rhyngwladol a sesiwn holi ac ateb
Y ffordd mae rheoleiddwyr rhyngwladol a gwasanaethau ar-lein yn ymdopi â gorchmynion rheoleiddio gwahanol: sgwrs gyda’n panelwyr yn trafod y prif ddatblygiadau a dulliau gweithredu ymarferol o ran diogelwch ar-lein byd-eang.
Uchafbwyntiau'r sesiwn:
15:45 – 16:25 (GMT): Ymchwilio’n fanwl: Yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘risg isel’, gyda sesiwn holi ac ateb
Mae angen i bob gwasanaeth ar-lein nodi, rheoli a lliniaru risgiau cynnwys anghyfreithlon. I rai, mae’r risgiau ar eu gwasanaeth yn isel. I eraill, gallant fod yn uwch neu’n fwy cymhleth. Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i gefnogi gwasanaethau sy’n credu y gallent fod yn risg isel ar gyfer pob math o niwed anghyfreithlon. Ymysg pethau eraill, bydd yn ymdrin â chwmpas y gyfraith, sut i wneud penderfyniadau yn eich asesiad risg a’u cofnodi, a’r mesurau diogelwch sylfaenol sy’n berthnasol i bawb – fel rhai mesurau llywodraethu, adrodd ar gynnwys a delio â chwynion.
Uchafbwyntiau'r sesiwn:
16:35 – 17:15 (GMT): Ymchwilio’n fanwl : Sut i fynd i’r afael â risgiau cymhleth, gan gynnwys cam-drin plant yn rhywiol, meithrin perthynas amhriodol a thwyll
Edrych yn fanwl ar ein hargymhellion i fynd i’r afael â risgiau uwch o niwed ar-lein fel cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant (gan gynnwys meithrin perthynas amhriodol a deunydd cam-drin plant yn rhywiol). Rydym hefyd yn rhoi sylw i’n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau sydd ag un neu lawer o lefelau risg uwch, sy’n gallu cynnwys mesurau cymedroli cynnwys, profi algorithmau systemau argymell, a riportio gan fflagwyr dibynadwy.
Uchafbwyntiau'r sesiwn:
17:25 – 18:25 (GMT): Ymchwilio’n fanwl: Yr hyn y mae’r dyletswyddau diogelwch ar-lein yn ei olygu i wasanaethau sy’n caniatáu pornograffi – sicrwydd oedran a thu hwnt, gyda sesiwn holi ac ateb
Mae’r sesiwn hon ar gyfer gwasanaethau sy’n caniatáu cynnwys pornograffig ar eu gwefan neu ap. Gallai hefyd fod o ddiddordeb i’r rheini sydd eisiau gwybod mwy am ddulliau sicrhau oedran effeithiol iawn a sut bydd y rheolau newydd yn amddiffyn plant rhag deunydd pornograffig ar-lein
Uchafbwyntiau'r sesiwn: