Dydd Llun 3 Chwefror:
Y rhwymedigaethau diogelwch ar-lein newydd a'r hyn y mae angen i chi ei wneud nawr

14:30 – 15:30 (GMT): Bywyd mwy diogel ar-lein – ein disgwyliadau ar gyfer 2025: sylwadau agoriadol gan y Fonesig Melanie Dawes a phanel o’r diwydiant

Mae Prif Swyddog Gweithredol Ofcom yn amlinellu’r newidiadau rydym yn eu disgwyl gan y diwydiant i gadw pobl yn ddiogel ar-lein, ein disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, a’r hyn rydym yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau ar-lein i gydymffurfio.

Bydd ein panel o’r diwydiant yn rhannu eu hagwedd at ddiogelwch ar-lein a gwybodaeth gan amrywiaeth o sectorau.

Uchafbwyntiau'r sesiwn:

  • Sylwadau Agoriadol gan y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
  • Trafodaeth panel o’r diwydiant (cyhoeddi’r panelwyr)
  • Holi ac Ateb – anfonwch eich cwestiynau atom ymlaen llaw neu gofynnwch ar-lein.


15:45 – 16:10 (GMT): Y prif bwyntiau a dyddiadau pwysig: Ydych chi ar y trywydd iawn i gyflawni’r dyletswyddau diogelwch ar-lein newydd?

Mae’r sesiwn hon yn rhoi cipolwg ar y dyletswyddau a’r amserlen sydd ar y gweill yn 2025. Byddwch yn clywed am y camau sydd angen eu cymryd ar unwaith, blaenoriaethau Ofcom a’r hyn sydd ar y gweill yng ngham nesaf ein gwaith yn y gwanwyn. Byddwn hefyd yn amlinellu beth i'w ddisgwyl o'r gynhadledd hon a sut y gall pob sesiwn eich cefnogi chi.

Uchafbwyntiau'r sesiwn:

  • Cyflwyniad: Dulliau Ofcom ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein
  • Beth i’w wneud nawr....chwech wythnos i fynd!
  • Y cam nesaf: dyddiadau pwysig mis Ebrill i fis Orffennaf
  • Sut gall ein sesiynau yr wythnos hon eich helpu chi


16:15 – 17:15 (GMT): Niwed ar-lein, ein penderfyniadau polisi a gorfodi: Dull gweithredu Ofcom ar gyfer cam cyntaf y gwaith rheoleiddio

Mae’r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o rai meysydd pwysig o ran niwed anghyfreithlon ar-lein a phenderfyniadau polisi Ofcom ar sut i fynd i’r afael â nhw. Mae ein dull gweithredu yn cael ei sbarduno gan yr hyn a wyddom am effaith niwed anghyfreithlon ar-lein ar bobl, a

byddwch yn clywed enghreifftiau gan ein harbenigwyr pwnc, yn ogystal â’r ffordd rydym wedi ymateb, a’r camau nesaf ar gyfer niwed anghyfreithlon. Byddwn yn cyflwyno ein dull gorfodi a sut bydd Ofcom yn gweithredu wrth i ddyletswyddau ddod i rym.

Uchafbwyntiau'r sesiwn:

  • Snapshot of harm online: hear from Ofcom’s subject matter experts 
  • Illegal harms recommendations and where to find more information 
  • Asesiadau mynediad plant a sicrwydd oedran effeithiol iawn – penderfyniadau allweddol
  • Sut bydd y polisïau hyn yn cael eu gweithredu a’u gorfodi 
  • Holi ac ateb - anfonwch eich cwestiynau atom ymlaen llaw neu gofynnwch ar-lein