Trosolwg o'r digwyddia

Mae'r gynhadledd ar-lein hon yn gymysgedd o sesiynau byr, ymarferol ac ymchwilio’n fanwl i bynciau i'ch cefnogi ar eich llwybr tuag at gydymffurfio.

Ymunwch â’r sesiynau a fydd fwyaf perthnasol i’ch busnes a’ch anghenion penodol chi. Mae croeso i chi ddod i bob sesiwn. 

 Diwrnod 1: Y rhwymedigaethau diogelwch ar-lein newydd a'r hyn y mae angen i chi ei wneud nawr

Hybrid (Riverside House, Llundain ac ar-lein)

  • Croeso gan Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, ac yna panel o’r diwydiant
  • Gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer cydymffurfio ac am brif benderfyniadau polisi gan arbenigwyr yn Ofcom


Diwrnod 2: Eich asesiadau diogelwch ar-lein cyntaf: canllaw cam-wrth-gam i gydymffurfio 

Ar-lein yn uni

  • Esboniad ymarferol cam-wrth-gam ar sut i ddefnyddio ein canllawiau a’n pecyn cymorth digidol
  • Dysgu am gynnwys anghyfreithlon a’r dyletswyddau o ran asesiadau mynediad plant
  • Cymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb agored gyda chwestiynau wedi’u cyflwyno ymlaen llaw. Rydym yn eich annog i anfon eich cwestiynau atom ymlaen llaw er mwyn ein helpu i roi sylw i gymaint ohonynt â phosibl.


Diwrnod 3: Canolbwyntio ar: Ymchwilio’n fanwl i bynciau allweddol sy’n berthnasol i’ch busnes

Ar-lein yn unig

  • Cydlynu diogelwch ar-lein ar draws y byd – trafodaeth banel
  • Beth mae’r rheolau’n ei olygu i wahanol wasanaethau - risg isel, canolig neu uchel
  • Rhwymedigaethau diogelwch ar-lein ar gyfer gwasanaethau sy’n caniatáu cynnwys i oedolion.