Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein bellach mewn grym. Mae’r Ddeddf yn golygu bod gwasanaethau ar-lein sydd â defnyddwyr yn y DU yn gyfreithiol gyfrifol am gadw oedolion a phlant yn ddiogel ar-lein – hyd yn oed os yw eu busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU.
Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU ac felly mae’n gyfrifol am ddarparu canllawiau a chymorth i gefnogi gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, am sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â’u rhwymedigaethau newydd, ac am gymryd camau i greu bywyd mwy diogel ar-lein.
Ymunwch â ni ar gyfer cynhadledd ar-lein – cyfres o weminarau byr dros dri phrynhawn i drafod y canlynol:
Dyddiad: 3 - 5 Chwefror 2025
Amser: 14:30 –17:30 GMT bob dydd
Ble: Mae Diwrnod 1 yn gynhadledd hybrid, gyda lleoedd cyfyngedig i ddod i’n swyddfa yn Llundain (Riverside House, Llundain). Mae diwrnodau 2 a 3 ar-lein yn unig. Mae croeso i chi bicio mewn ac allan o’r sesiynau
Pwy ddylai ddod: Unrhyw un y mae’r dyletswyddau diogelwch ar-lein newydd yn berthnasol iddynt – os nad ydych chi’n siŵr a yw’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i chi, tarwch olwg yma. Mae’r gynhadledd hon yn benodol ar gyfer y diwydiant a’r rheini sy’n cefnogi cydymffurfio, ond gallai fod o ddiddordeb hefyd i eraill sy’n gweithio ym maes diogelwch ar-lein.
Beth i’w wneud nesaf: Cofrestrwch i ymuno â'r digwyddiad ac i gael mynediad at unrhyw sesiynau a deunyddiau a recordiwyd. Byddwn yn darparu rhai sesiynau ar gais ar ôl y digwyddiad.