Dydd Mawrth 4 Chwefror
Eich asesiadau diogelwch ar-lein cyntaf: canllaw cam-wrth-gam i gydymffurfio

14:30 – 15:05 (GMT): Sut mae cwblhau eich asesiad risg ar gyfer cynnwys anghyfreithlon a diogelu eich defnyddwyr, gydag esboniad ymarferol ar sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth digido

Rydym yn dechrau drwy grynhoi’r rheolau sydd mewn grym erbyn hyn, gan gynnwys yr asesiad risg cynnwys anghyfreithlon a’r dyletswyddau diogelwch, a Chodau Ymarfer Ofcom. Sesiwn ymarferol yn egluro’r camau y mae angen i chi eu cymryd i gydymffurfio gan fynd cam-wrth-gam drwy broses ein gwasanaeth cymorth digidol newydd, sydd wedi'i gynllunio gyda busnesau bach a chanolig mewn golwg ac yn hygyrch i bawb ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth, ymunwch â’n sesiynau manwl ar beth mae ein polisïau’n ei olygu ar gyfer gwasanaethau risg isel a risg uchel (16:35), yn ogystal â gwasanaethau

Uchafbwyntiau'r sesiwn:

  • Atgoffa o’r rheolau, asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon a chodau ymarfer 
  • Y ffordd y gall y pecyn cymorth digidol eich helpu i gydymffurfio 


 15:15 – 15:45 (GMT): Holi ac Ateb: Codau ac asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon

Sesiwn holi ac ateb bwrpasol gydag arbenigwyr Ofcom yn trin a thrafod cwestiynau a gyflwynwyd gennych ymlaen llaw sy’n ymwneud ag asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon a chodau ymarfer. Bydd cyfleoedd hefyd i ofyn cwestiynau ar y diwrnod.


 16:00 – 16:35 (GMT): Sut i gynnal asesiadau mynediad eich plant a rôl sicrwydd oedran

Darganfyddwch sut i gynnal asesiad mynediad eich plant, sy’n penderfynu a yw’r asesiad risg a dyletswyddau diogelwch plant yn berthnasol i chi.

Byddwn hefyd yn amlinellu ein canllawiau ar sicrwydd oedran effeithiol iawn – rhan bwysig o amddiffyniadau’r Ddeddf i blant y disgwyliwn i rai gwasanaethau eu rhoi ar waith yn 2025.

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y camau ymarferol y mae angen i wasanaethau eu cymryd i gydymffurfio â'u dyletswyddau.

I gael rhagor o wybodaeth am sicrwydd oedran effeithiol iawn , ymunwch â’n sesiwn fanwl ar beth mae ein polisïau’n ei olygu i wasanaethau oedolion (3.3) ar ddydd Mercher.

  Uchafbwyntiau'r sesiwn:

  • Cyflwyniad i ddyletswyddau amddiffyn plant, gyda ffocws ar y dyletswyddau asesu mynediad plant newydd, gan gynnwys y cysyniad a rôl sicrwydd oedran effeithiol iawn (HEAA).
  • Canllaw cam wrth gam i’r asesiad mynediad plant – gwahanol gamau’r broses a’r dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei hystyried
  • Cyflwyniad i sicrwydd oedran effeithiol iawn – ein hymagwedd a pham ei fod yn bwysig ar gyfer yr asesiad mynediad plant


 16:45 – 17:20 (GMT): Holi ac Ateb: asesiadau mynediad plant a sicrwydd oedran

Dedicated question and answer session with Ofcom’s experts on your pre-submitted questions about children’s access assessments and age assurance. There will also be opportunities to ask questions on the day.

For more on age assurance join our deep dive session on what our policies mean for adult services on Wed 5 February at 17:25